| Tâl Aelodaeth - Ailymuno 2012 |
|
Tal Aelodaeth 2012 a Dosbarthiadau Aelodaeth:
Mae'r ffurflen ymaelodi ac ailymuno yma. AELOD LLAWN - £135.00Mae Aelodaeth lawn yn addas i berson sengl, neu i’r rhai nad yw eu partner/cymar am ddefnyddio unrhyw adnoddau’r clwb. Mae plant (o dan 18) yn gynwysiedig fel aelodau. AELODAETH TEULU - £204.00Mae aelodaeth teulu yn addas i gyplau sydd yn byw yn yr un cyfeiriad. Mae eu plant (o dan 18) hefyd yn aelodau. AELOD CYMDEITHASOL - £74.00Mae aelodaeth Cymdeithasol ar gyfer person sengl neu gyplau sydd yn byw yn yr un cyfeiriad, sydd ddim am gymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio/cychod ac sydd a’u prif gartref yng Ngwynedd. Mae eu plant (o dan 18) sydd ddim yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio/cychod hefyd yn aelodau. AELOD IEUANC - £17.00I bobl ifanc o dan 18 nad yw eu rhieni yn Aelodau Llawn neu’n Aelodau Teuluol neu sydd mewn addysg llawn amser. AELODAETH MYFYRWR - £30.00Mae Aelodaeth Myfyrwr yn addas i oedolyn sydd o dan 26 ar 31ain o Ragfyr yn y flwyddyn aelodaeth sydd mewn addysg llawn amser (bellach neu uwch) , neu unigolyn diwaith o dan 26 sydd yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau hwylio.
NEWYDD AR GYFER 2009 Mae'r ffurflen ymaelodi ac ailymuno yma - felly ewch ati i'w llenwi a'i dychwelyd gyda'r ffi briodol, os gwelwch yn dda. Rydyn ni ynghanol y dasg o ddiweddaru'n cronfa ddata o aelodau ac fe fyddai'n wych pe gallech chi roi'r cyfan o'r wybodaeth sydd ei angen ar y ffurflen (gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost cyfredol), hyd yn oed os ydach chi'n credu bod eich manylion chi ganddon ni'n barod. Mae'r ffurflen aelodaeth ar gael yma. |


