Am 6 o’r gloch nos Fercher nesaf, 2ail Rhagfyr, mae gwahoddiad i chi fynychu digwyddiad i gyflwyno canlyniad prosiect Celf ym Mhlas Heli. Yn sgîl nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae Jessica ac Ant, artistiaid o Ogledd Cymru, wedi datblygu dau waith celf sy’n defnyddio golau. Mae’n debygol eich bod eisoes wedi sylwi ar rannau o’r darn cyntaf, y golau o amgylch y drwm sydd yn ychwanegiad parhaol i adeilad Plas Heli. Mae’r golau hwn yn ymateb i fesurydd gwynt ar do’r adeilad ac yn cyfateb â graddfa wynt Beaufort.

Mae’r ail ddarn yn gasgliad bach o ddelweddau sy’n cynrychioli gorffennol, presennol a dyfodol bywyd glan môr yn yr ardal. Yn ystod yr haf fe anfonodd Plas Heli alwad allan yn gofyn i aelodau o’r gymuned am luniau addas a bydd rhai o’r delweddau hyn yn cael eu taflunio ar hwyl yn ystod y digwyddiad nos Fercher.

Os hoffech chi ymuno â ni yn y digwyddiad anffurfiol hwn i ddathlu’r darnau hyn o waith celf yna gadewch i mi wybod trwy ateb i'r cylchlythyr yma cyn gynted â phosibl.

Mae y ddogfen gwahodd yma.

GwahoddiadArtsProject

CalonHwylioCymru